Mae cangen gref iawn o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn bodoli yn yr ysgol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o rieni gweithgar a brwdfrydig. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob cymorth a gynigir. Cynhelir amrywiol weithgareddau i godi arian tuag at gronfa’r ysgol yn ystod y flwyddyn ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl gefnogaeth mae’r ysgol yn ei dderbyn.