Mae Cyngor Ysgol yn weithredol ac yn dechrau cael dylanwadu bositif iawn ar fywyd pob dydd yr ysgol. Mae gan ddosbarthiadau blynyddoedd 2 i 6 gynrychiolaeth ar y cyngor. Yn ystod y flwyddyn cynhelir sawl cyfarfod ble caiff y disgyblion oll gyfle i fynegi barn am weithdrefnau’r ysgol a chynnig syniadau ar gyfer gwella. Ar ddechrau pob blwyddyn ysgol cynhelir pleidlais gudd ble mae pob dosbarth yn ethol tri ddisgybl i’w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol.