Hafan > Llywodraethwyr

Llywodraethwyr

Mae llywodraethwyr yn gweithio ar y cyd gyda'r Pennaeth ac aelodau  staff yr ysgol er mwyn sicrhau bod ysgolion yn addysgu a dysgu ein plant yn llwyddiannus a chodi safonau. Mae cyrff llywodraethu’n bodoli fel bod ysgolion yn atebol yn gyhoeddus i rieni, yr ALl a’r gymuned leol am yr hyn a wnânt, am y canlyniadau a gânt, ac am y ffordd y mae’r adnoddau’n cael eu dyrannu. 

Mae'r llywodraethwyr yn rhywun sydd:

  • yn wirfoddolwr;
  • yn gofalu am addysgu, dysgu a phlant;
  • yn cynrychioli pobl gyda diddordeb allweddol yn yr ysgol, yn cynnwys rhieni, staff, y gymuned leol a’r ALl;
  • yn aelod o dîm sy’n derbyn cyfrifoldeb am bopeth y mae ysgol yn ei wneud;
  • ag amser i’w roi i gyfarfodydd a digwyddiadau eraill pan fo angen;
  • yn fodlon dysgu;
  • yn gallu gweithredu fel ffrind beirniadol sydd yn cefnogi'r ysgol ond sydd hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut y mae'r ysgol yn gweithio a'r safonau y mae'n eu cyflawni;
  • yn ddolen gyswllt rhwng rhieni, y gymuned leol, yr ALl a’r ysgol 

Yn yr adran yma: